Hosea 10:1-3 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd Israel fel gwinwydden iacha'i ffrwyth yn drwm ar ei changhennau.Ond po fwya o ffrwyth gafwyd,mwya o allorau a godwyd.Wrth i gnydau'r tir lwyddobyddai'r colofnau cysegredig yn cael eu haddurno.

2. Maen nhw'n rhagrithio,felly byddan nhw'n cael eu cosbi.Bydd yr ARGLWYDD ei hunyn chwalu'r allorauac yn malu'r colofnau.

3. Yn fuan iawn byddan nhw'n cyfaddef,“Does dim brenin am ein bod heb barchu'r ARGLWYDD.Ond beth wnaeth brenin i ni beth bynnag?”

Hosea 10