Hebreaid 9:9-18 beibl.net 2015 (BNET)

9. Mae'n ddarlun sy'n dangos beth sy'n bwysig heddiw. Doedd y rhoddion a'r aberthau oedd yn cael eu cyflwyno dan yr hen drefn ddim yn gallu rhoi cydwybod glir i'r addolwr.

10. Dyn nhw ddim ond yn rheolau ynglŷn â gwahanol fathau o fwyd a diod a defodau golchi – pethau oedd ond yn berthnasol nes i'r drefn newydd gyrraedd.

11. Ond yna daeth y Meseia fel Archoffeiriad, a rhoi i ni'r holl bethau da dŷn ni eisoes wedi eu profi. Mae e wedi mynd drwy'r babell go iawn, sef yr un berffaith na chafodd ei gwneud gan bobl ac sydd ddim yn perthyn i'r byd hwn.

12. Aeth i mewn un waith ac am byth i'r Lle Mwyaf Sanctaidd sydd yn y nefoedd. Aeth e ddim gyda gwaed geifr a lloi – aeth â'i waed ei hun, er mwyn i ni gael ein gollwng yn rhydd am byth.

13. Roedd gwaed geifr a theirw yn cael ei daenellu, a lludw'r heffer yn cael ei wasgaru, er mwyn gwneud y bobl oedd yn aflan yn lân yn seremonïol.

14. Ond mae gwaed y Meseia yn cyflawni llawer iawn mwy – mae'n glanhau'r gydwybod o'r pethau sy'n arwain i farwolaeth. Felly gallwn ni wasanaethu'r Duw byw! Mae'r Meseia wedi cyflwyno ei hun yn aberth perffaith i Dduw drwy nerth yr Ysbryd tragwyddol.

15. Dyna pam mai fe ydy'r canolwr sy'n selio'r ymrwymiad newydd. Buodd farw i dalu'r pris i ollwng pobl yn rhydd o ganlyniadau'r pechodau gafodd eu cyflawni dan y drefn gyntaf – er mwyn i'r rhai sydd wedi eu galw dderbyn yr holl fendithion tragwyddol mae wedi eu haddo iddyn nhw.

16. Os ydy rhywun wedi gwneud ewyllys, mae'n rhaid profi fod y person hwnnw wedi marw cyn i neb gael dim.

17. Dydy ewyllys ddim yn cael ei gweithredu nes i'r un wnaeth yr ewyllys farw – dydy'r eiddo ddim yn cael ei rannu pan mae e'n dal yn fyw!

18. Dyna pam roedd angen gwaed i hyd yn oed y drefn gyntaf gael ei gweithredu.

Hebreaid 9