Hebreaid 6:9-17 beibl.net 2015 (BNET)

9. Ond er ein bod ni'n siarad fel hyn, ffrindiau annwyl, dŷn ni'n hyderus fod pethau gwell o'ch blaen chi – bendithion sy'n dod i'r rhai sy'n cael eu hachub.

10. Dydy Duw ddim yn annheg; wnaiff e ddim anghofio beth dych chi wedi ei wneud. Dych chi wedi dangos eich cariad ato drwy helpu Cristnogion eraill. A dych chi'n dal i wneud hynny!

11. Daliwch ati i ddangos yr un brwdfrydedd, a byddwch chi'n derbyn yn llawn y cwbl dych chi'n edrych ymlaen ato.

12. Dŷn ni ddim am i chi fod yn ddiog! Dilynwch esiampl y rhai hynny sy'n credu go iawn ac yn dal ati yn amyneddgar – nhw ydy'r rhai fydd yn derbyn y cwbl mae Duw wedi ei addo.

13. Pan wnaeth Duw addewid i Abraham aeth ar ei lw y byddai'n gwneud beth oedd wedi ei addo. Rhoddodd ei gymeriad ei hun ar y lein! – doedd neb mwy iddo allu tyngu llw iddo!

14. A dyma ddwedodd e: “Dw i'n addo dy fendithio di a rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti.”

15. Ac felly, ar ôl disgwyl yn amyneddgar dyma Abraham yn derbyn beth roedd Duw wedi ei addo iddo.

16. Pan mae pobl yn tyngu llw maen nhw'n gofyn i rywun mwy na nhw eu hunain wneud yn siŵr eu bod yn gwneud beth maen nhw'n ei addo. Mae'r llw yn eu rhwymo nhw i wneud beth maen nhw wedi ei ddweud, ac yn rhoi diwedd ar bob dadl.

17. Am fod Duw am i bobl wybod ei fod e ddim yn newid ei feddwl ac y byddai'n gwneud beth roedd wedi ei addo iddyn nhw, rhwymodd ei hun gyda llw.

Hebreaid 6