6. Ond mae'r Meseia yn Fab ffyddlon gydag awdurdod dros deulu Duw i gyd. A dŷn ni'n bobl sy'n perthyn i'r teulu hwnnw os wnawn ni ddal gafael yn yr hyder a'r gobaith dŷn ni'n ei frolio.
7. Felly, fel mae'r Ysbryd Glân yn dweud: “Os clywch chi lais Duw heddiw,
8. peidiwch bod yn ystyfnig fel oeddech chi adeg y gwrthryfel, yn rhoi Duw ar brawf yn yr anialwch.
9. Roedd eich hynafiaid wedi profi fy amynedd a chawson nhw weld y canlyniadau am bedwar deg mlynedd.