Habacuc 3:9-14 beibl.net 2015 (BNET)

9. Mae dy fwa wedi ei dynnu allan,a dy saethau yn barod i ufuddhau i ti. Saib Mae afonydd yn llifo ac yn hollti'r ddaear.

10. Mae'r mynyddoedd yn gwingo wrth dy weld yn dod.Mae'n arllwys y glaw,a'r storm ar y môr yn rhuoa'r tonnau'n cael eu taflu'n uchel.

11. Mae'r haul a'r lleuad yn aros yn llonydd;mae fflachiadau dy saethau,a golau llachar dy waywffon yn eu cuddio.

12. Rwyt ti'n stompio drwy'r ddaear yn wyllt,a sathru'r gwledydd dan draed.

13. Ti'n mynd allan i achub dy bobl;i achub y gwas rwyt wedi ei eneinio.Ti'n taro arweinydd y wlad ddrwg,a'i gadael yn noeth o'i phen i'w chynffon. Saib

14. Ti'n trywanu ei milwyr gyda'u picellau eu hunain,wrth iddyn nhw ruthro ymlaen i'n chwalu ni.Roedden nhw'n chwerthin a dathluwrth gam-drin y tlawd yn y dirgel.

Habacuc 3