Habacuc 1:14-17 beibl.net 2015 (BNET)

14. Rwyt ti'n gwneud pobl fel pysgod,neu greaduriaid y môr heb neb i'w harwain.

15. Mae'r gelyn yn eu dal nhw gyda bachyn;mae'n eu llusgo nhw yn y rhwyd wnaeth ei thaflu.Wrth eu casglu gyda'i rwyd bysgotamae'n dathlu'n llawen ar ôl gwneud mor dda.

16. Wedyn mae'n cyflwyno aberthauac yn llosgi arogldarth i'w rwydau.Nhw sy'n rhoi bywyd bras iddo,a digonedd i'w fwyta

17. Ydy e'n mynd i gael dal atii wagio ei rwydi,a dinistrio gwledydd yn ddidrugaredd?

Habacuc 1