7. Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi drwy'r byd i gyd.”
8. A dyma Duw yn dweud wrth Noa a'i feibion,
9. “Dw i am wneud ymrwymiad i chi a'ch disgynyddion,
10. a hefyd gyda pob creadur byw – adar, anifeiliaid dof a phob creadur arall ddaeth allan o'r arch.
11. Dw i'n addo na fydda i byth yn anfon dilyw eto i gael gwared â phopeth byw ac i ddinistrio'r ddaear.
12. A dw i'n mynd i roi arwydd i chi i ddangos fod yr ymrwymiad dw i'n ei wneud yn mynd i bara am byth:
13. Dw i'n rhoi fy mwa yn y cymylau, a bydd yn arwydd o'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda'r ddaear.
14. Pan fydd cymylau yn yr awyr, ag enfys i'w gweld yn y cymylau,
15. bydda i'n cofio'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud i chi a phob creadur byw. Fydd llifogydd ddim yn dod i ddinistrio bywyd i gyd byth eto.
16. Pan fydd enfys yn y cymylau bydda i'n cofio'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda phob creadur byw sydd ar y ddaear.”
17. A dyma Duw yn dweud wrth Noa, “Dyma'r arwydd sy'n dangos y bydda i'n cadw'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda phopeth byw ar y ddaear.”
18. Shem, Cham a Jaffeth oedd enwau meibion Noa ddaeth allan o'r arch. (Cham oedd tad Canaan.)
19. Roedd y tri ohonyn nhw yn feibion i Noa, ac mae holl bobloedd y byd yn ddisgynyddion iddyn nhw.
20. Roedd Noa yn ffermwr. Fe oedd y cyntaf un i blannu gwinllan.
21. Yfodd Noa beth o'r gwin, a meddwi. Tynnodd ei ddillad a gorwedd yn noeth yn ei babell.