Genesis 9:4-15 beibl.net 2015 (BNET)

4. Ond rhaid i chi beidio bwyta cig sydd â bywyd yn dal ynddo (sef y gwaed).

5. Mae tywallt gwaed dynol yn rhywbeth sy'n rhaid ei gosbi. Rhaid lladd unrhyw anifail gwyllt sy'n gwneud hynny. A rhaid i berson sy'n lladd rhywun arall farw hefyd, am fod pobl yn frodyr a chwiorydd i'w gilydd.

6. Mae rhywun sy'n lladd person arallyn haeddu cael ei ladd ei hun,am fod Duw wedi creu'r ddynoliaethyn ddelw ohono'i hun.

7. Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi drwy'r byd i gyd.”

8. A dyma Duw yn dweud wrth Noa a'i feibion,

9. “Dw i am wneud ymrwymiad i chi a'ch disgynyddion,

10. a hefyd gyda pob creadur byw – adar, anifeiliaid dof a phob creadur arall ddaeth allan o'r arch.

11. Dw i'n addo na fydda i byth yn anfon dilyw eto i gael gwared â phopeth byw ac i ddinistrio'r ddaear.

12. A dw i'n mynd i roi arwydd i chi i ddangos fod yr ymrwymiad dw i'n ei wneud yn mynd i bara am byth:

13. Dw i'n rhoi fy mwa yn y cymylau, a bydd yn arwydd o'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda'r ddaear.

14. Pan fydd cymylau yn yr awyr, ag enfys i'w gweld yn y cymylau,

15. bydda i'n cofio'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud i chi a phob creadur byw. Fydd llifogydd ddim yn dod i ddinistrio bywyd i gyd byth eto.

Genesis 9