Genesis 9:18-25 beibl.net 2015 (BNET)

18. Shem, Cham a Jaffeth oedd enwau meibion Noa ddaeth allan o'r arch. (Cham oedd tad Canaan.)

19. Roedd y tri ohonyn nhw yn feibion i Noa, ac mae holl bobloedd y byd yn ddisgynyddion iddyn nhw.

20. Roedd Noa yn ffermwr. Fe oedd y cyntaf un i blannu gwinllan.

21. Yfodd Noa beth o'r gwin, a meddwi. Tynnodd ei ddillad a gorwedd yn noeth yn ei babell.

22. Dyma Cham, tad Canaan, yn edrych ar ei dad yn noeth ac yna'n mynd allan i ddweud wrth ei frodyr.

23. Ond dyma Shem a Jaffeth yn cymryd clogyn a'i osod ar eu hysgwyddau. Wedyn dyma nhw'n cerdded at yn ôl i mewn i'r babell a gorchuddio corff noeth eu tad. Roedden nhw yn edrych i ffwrdd wrth wneud hyn, felly wnaethon nhw ddim gweld eu tad yn noeth.

24. Ar ôl i Noa ddeffro a sobri, clywodd beth roedd ei fab ifancaf wedi ei wneud,

25. ac meddai,“Melltith ar Canaan!bydd fel caethwas dibwys i'w frodyr.”

Genesis 9