Genesis 9:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Duw yn bendithio Noa a'i feibion, a dweud wrthyn nhw: “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear.

2. Bydd gan yr anifeiliaid, yr adar, pob creadur bach arall a'r pysgod eich ofn chi. Byddwch yn eu rheoli nhw.

3. Bellach cewch fwyta unrhyw greadur byw, nid dim ond planhigion fel o'r blaen.

4. Ond rhaid i chi beidio bwyta cig sydd â bywyd yn dal ynddo (sef y gwaed).

5. Mae tywallt gwaed dynol yn rhywbeth sy'n rhaid ei gosbi. Rhaid lladd unrhyw anifail gwyllt sy'n gwneud hynny. A rhaid i berson sy'n lladd rhywun arall farw hefyd, am fod pobl yn frodyr a chwiorydd i'w gilydd.

6. Mae rhywun sy'n lladd person arallyn haeddu cael ei ladd ei hun,am fod Duw wedi creu'r ddynoliaethyn ddelw ohono'i hun.

7. Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi drwy'r byd i gyd.”

8. A dyma Duw yn dweud wrth Noa a'i feibion,

9. “Dw i am wneud ymrwymiad i chi a'ch disgynyddion,

Genesis 9