Genesis 6:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Wrth i boblogaeth y byd dyfu ac i ferched gael eu geni,

2. dyma'r bodau nefol yn gweld fod merched dynol yn hardd. A dyma nhw'n cymryd y rhai roedden nhw'n eu ffansïo i fod yn wragedd iddyn nhw eu hunain.

3. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Alla i ddim gadael i bobl fyw am byth. Maen nhw'n greaduriaid sy'n mynd i farw, ac o hyn ymlaen fyddan nhw ddim yn byw fwy na 120 mlynedd.”

4. Roedd cewri yn byw ar y ddaear bryd hynny (ac wedyn hefyd). Nhw oedd y plant gafodd eu geni ar ôl i'r bodau nefol gael rhyw gyda merched dynol. Dyma arwyr enwog yr hen fyd.

5. Roedd yr ARGLWYDD yn gweld bod y ddynoliaeth bellach yn ofnadwy o ddrwg. Doedden nhw'n meddwl am ddim byd ond gwneud drwg drwy'r amser.

Genesis 6