10. Buodd Enosh fyw am 815 mlynedd ar ôl i Cenan gael ei eni, a chafodd blant eraill.
11. Felly roedd Enosh yn 905 oed yn marw.
12. Pan oedd Cenan yn 70 oed, cafodd ei fab Mahalal-el ei eni.
13. Buodd Cenan fyw am 840 mlynedd ar ôl i Mahalal-el gael ei eni, a chafodd blant eraill.
14. Felly roedd Cenan yn 910 oed yn marw.
15. Pan oedd Mahalal-el yn 65 oed cafodd ei fab Iered ei eni.
16. Buodd Mahalal-el fyw am 830 mlynedd ar ôl i Iered gael ei eni, a chafodd blant eraill.
17. Felly roedd Mahalal-el yn 895 oed yn marw.
18. Pan oedd Iered yn 162 oed cafodd ei fab Enoch ei eni.
19. Buodd Iered fyw am 800 mlynedd ar ôl i Enoch gael ei eni, a chafodd blant eraill.
20. Felly roedd Iered yn 962 oed yn marw.