Genesis 5:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma restr deuluol Adda:Pan greodd Duw bobl, gwnaeth nhw i fod yn ddelw ohono'i hun.

2. Creodd nhw yn wryw ac yn fenyw, bendithiodd nhw, a rhoi'r enw ‛dynoliaeth‛ iddyn nhw.

3. Pan oedd Adda yn 130 oed, cafodd fab a'i alw'n Seth. Roedd Seth yr un ffunud â'i dad.

4. Buodd Adda fyw am 800 mlynedd ar ôl i Seth gael ei eni, a chafodd blant eraill.

5. Felly roedd Adda yn 930 oed yn marw.

Genesis 5