26. Mae'r bendithion gafodd dy dadyn well na bendithion y mynyddoedd tragwyddola'r pethau da mae'r bryniau hynafol yn eu rhoi.Byddan nhw'n disgyn ar ben Joseff –ar dalcen yr un sy'n flaenaf ar ei frodyr.
27. Mae Benjamin fel blaidd rheibus,yn rhwygo ei ysglyfaeth yn y bore,ac yn rhannu beth sydd ar ôl gyda'r nos.”
28. Dyma'r deuddeg llwyth yn Israel. A dyma beth ddwedodd eu tad wrthyn nhw pan fendithiodd nhw. Rhoddodd fendith addas i bob un ohonyn nhw.
29. Wedyn rhoddodd Jacob orchymyn iddyn nhw. “Dw i'n mynd i farw cyn hir. Dw i eisiau i chi fy nghladdu gyda fy hynafiaid, yn yr ogof ar dir Effron yr Hethiad.
30. Yr ogof yn Machpela ger Mamre yng ngwlad Canaan. Yr un brynodd Abraham gan Effron yr Hethiad fel man claddu i'w deulu.