Genesis 49:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. Galwodd Jacob ei feibion ato. “Dewch yma i mi gael dweud wrthoch chi beth sy'n mynd i ddigwydd i chi yn y dyfodol,” meddai.

2. “Dewch yma i wrando, feibion Jacob;gwrandwch ar Israel, eich tad.

3. Reuben, ti ydy fy mab hynaf;fy nghryfder, a ffrwyth cyntaf fy egni –yr un â'r safle uchaf a'r anrhydedd mwyaf.

4. Ond rwyt ti mor afreolus â dŵr –fyddi di ddim yn gyntaf.Est ti i mewn i wely dy dad,a'i lygru trwy dreisio fy ngwraig –gorwedd ar glustogau dy dad!

Genesis 49