Genesis 48:11-17 beibl.net 2015 (BNET)

11. Ac meddai wrth Joseff, “Doeddwn i erioed yn meddwl y byddwn i'n dy weld di eto. A dyma Duw wedi gadael i mi weld dy blant di hefyd!”

12. Cymerodd Joseff y bechgyn oddi ar liniau ei dad, ac wedyn ymgrymodd â'i wyneb ar lawr o'i flaen.

13. Rhoddodd Joseff Effraim ar yr ochr dde iddo (o flaen llaw chwith Jacob), a Manasse ar yr ochr chwith (o flaen llaw dde Jacob), a mynd â nhw'n nes ato.

14. Ond dyma Jacob yn croesi ei freichiau a rhoi ei law dde ar ben Effraim (yr ifancaf o'r ddau) a'i law chwith ar ben Manasse (y mab hynaf).

15. A dyma fe'n bendithio Joseff trwy ddweud,“O Dduw – y Duw roedd fy nhaid Abraham a'm tad Isaac yn ei wasanaethu;y Duw sydd wedi bod fel bugail i mi ar hyd fy mywyd;

16. Yr angel sydd wedi fy amddiffyn i rhag pob drwg– bendithia'r bechgyn yma.Cadw fy enw i ac enw fy nhaid Abraham a'm tad Isaac yn fyw trwyddyn nhw.Gwna nhw yn dyrfa fawr o bobl ar y ddaear.”

17. Pan sylwodd Joseff fod ei dad wedi rhoi ei law dde ar ben Effraim, doedd e ddim yn hapus. Felly gafaelodd yn llaw dde ei dad i'w symud o ben Effraim i ben Manasse,

Genesis 48