Genesis 47:2-22 beibl.net 2015 (BNET)

2. Dewisodd bump o'i frodyr i fynd gydag e, a'u cyflwyno i'r Pharo.

3. Gofynnodd y Pharo i'r brodyr, “Beth ydy'ch gwaith chi?” A dyma nhw'n ateb, “Mae dy weision yn fugeiliaid. Dyna mae'r teulu wedi ei wneud ers cenedlaethau.”

4. A dyma nhw'n dweud wrth y Pharo, “Dŷn ni wedi dod i aros dros dro yn y wlad. Does dim porfa i'n hanifeiliaid ni yn Canaan am fod y newyn mor drwm yno. Plîs wnewch chi adael i'ch gweision aros yn ardal Gosen.”

5. A dyma'r Pharo yn dweud wrth Joseff, “Mae dy dad a dy frodyr wedi dod atat ti.

6. Mae gwlad yr Aifft o dy flaen di. Gad i dy dad a dy frodyr setlo yn y rhan orau o'r wlad. Gad iddyn nhw fynd i fyw yn ardal Gosen. Dewis y rhai gorau ohonyn nhw i ofalu am fy anifeiliaid i.”

7. Wedyn aeth Joseff â'i dad Jacob at y Pharo i'w gyflwyno iddo. A dyma Jacob yn bendithio'r Pharo.

8. Gofynnodd y Pharo i Jacob, “Faint ydy'ch oed chi?”

9. “Dw i wedi crwydro'r hen fyd yma ers 130 o flynyddoedd,” meddai Jacob. “Bywyd byr, a digon o drafferthion. Dw i ddim wedi cael byw mor hir â'm hynafiaid.”

10. A dyma Jacob yn bendithio'r Pharo eto cyn ei adael.

11. Felly dyma Joseff yn trefnu lle i'w dad a'i frodyr fyw. Rhoddodd dir iddyn nhw yn y rhan orau o wlad yr Aifft – yn ardal Rameses, fel roedd y Pharo wedi dweud.

12. Roedd Joseff hefyd yn rhoi digon o fwyd i gynnal ei dad a'i frodyr a'r teulu a'u plant i gyd.

13. Doedd dim bwyd yn unman yn y wlad. Roedd y newyn yn wirioneddol ddrwg. Roedd pobl yr Aifft a gwlad Canaan wedi mynd yn wan o achos y newyn.

14. Roedd Joseff yn gwerthu ŷd i'r bobl, a chasglodd yr holl arian oedd ar gael drwy wlad yr Aifft a gwlad Canaan. Ac aeth a'r arian i balas y Pharo.

15. Pan oedd dim arian ar ôl yn yr Aifft na gwlad Canaan, dyma'r Eifftiaid yn mynd at Joseff eto. “Rho fwyd i ni. Pam ddylen ni orfod marw am fod gynnon ni ddim arian?” medden nhw.

16. Atebodd Joseff, “Os nad oes gynnoch chi arian, rhowch eich anifeiliaid i mi. Rho i fwyd i chi am eich anifeiliaid.”

17. Felly dyma nhw'n dod â'u hanifeiliaid i Joseff. A rhoddodd Joseff fwyd iddyn nhw am eu ceffylau, eu defaid a'u geifr, eu gwartheg a'u hasynnod. Y flwyddyn honno rhoddodd fwyd iddyn nhw yn gyfnewid am eu hanifeiliaid.

18. Pan ddaethon nhw yn ôl y flwyddyn wedyn, dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae ein meistr yn gwybod nad oes gynnon ni arian, ac mae'n meistr hefyd wedi cymryd ein hanifeiliaid ni. Does gynnon ni ddim byd ar ôl i'w gynnig ond ni'n hunain a'n tir.

19. Beth ydy'r pwynt os gwnawn ni farw? Pryna ni a'n tir am fwyd. Gwna ni'n gaethweision i'r Pharo, a chymer ein tir ni hefyd. Mae'n well i ni gael byw na marw, ac wedyn fydd y wlad i gyd ddim wedi ei difetha.”

20. Felly dyma Joseff yn prynu tir yr Aifft i gyd i'r Pharo. Roedd yr Eifftiaid i gyd yn gwerthu eu caeau iddo, am eu bod nhw'n diodde mor ofnadwy o achos y newyn. Felly'r Pharo oedd piau'r tir i gyd.

21. A dyma'r bobl o un pen i'r wlad i'r llall yn cael eu gwneud yn gaethweision.

22. (Yr unig dir wnaeth e ddim ei brynu oedd tir yr offeiriaid. Roedd yr offeiriaid yn cael lwfans gan y brenin, ac yn byw ar y lwfans hwnnw. Felly wnaethon nhw ddim gwerthu eu tir.)

Genesis 47