4. Dw i'n mynd gyda ti i'r Aifft, a bydda i'n dod â ti yn ôl eto. Bydd Joseff gyda ti pan fyddi di farw.”
5. Yna aeth Jacob yn ei flaen o Beersheba. Dyma feibion Jacob yn rhoi eu tad, a'u gwragedd a'u plant yn y wagenni roedd y Pharo wedi eu hanfon iddyn nhw.
6. A dyma nhw'n mynd â'i hanifeiliaid gyda nhw, a'r eiddo roedden nhw wedi ei gasglu pan oedden nhw'n byw yng ngwlad Canaan. Dyma Jacob a'i deulu i gyd yn cyrraedd gwlad yr Aifft:
7. ei feibion a'i wyrion, ei ferched a'i wyresau. Aeth â nhw i gyd gydag e.
8. Dyma enwau'r Israeliaid aeth i lawr i'r Aifft, sef Jacob a'i deulu:Reuben (mab hynaf Jacob).
9. Meibion Reuben: Hanoch, Palw, Hesron a Carmi.