26. “Mae Joseff yn dal yn fyw!” medden nhw wrtho. “Fe sy'n rheoli gwlad yr Aifft i gyd.” Bu bron i galon Jacob stopio. Doedd e ddim yn credu ei glustiau.
27. Ond pan ddwedon nhw bopeth oedd Joseff wedi ei ddweud wrthyn nhw, a pan welodd y wagenni roedd Joseff wedi eu hanfon, dyma Jacob yn dechrau dod ato'i hun.
28. “Dyna ddigon!” meddai. “Mae Joseff yn fyw. Rhaid i mi fynd i'w weld cyn i mi farw.”