11. Felly dyma nhw i gyd yn tynnu eu sachau i lawr ar unwaith ac yn eu hagor.
12. Edrychodd y swyddog yn y sachau i gyd. Dechreuodd gyda sach yr hynaf, a gorffen gyda'r ifancaf. A dyna lle roedd y gwpan, yn sach Benjamin.
13. Dyma nhw'n rhwygo eu dillad. Yna dyma nhw'n llwytho'r asynnod eto, a mynd yn ôl i'r ddinas.
14. Pan gyrhaeddodd Jwda a'i frodyr dŷ Joseff roedd e'n dal yno. A dyma nhw'n syrthio ar eu gliniau o'i flaen.
15. Gofynnodd Joseff iddyn nhw, “Pam ydych chi wedi gwneud hyn? Ydych chi ddim yn sylweddoli fod dyn fel fi yn gallu darogan beth sy'n digwydd?”
16. A dyma Jwda'n ateb, “Beth allwn ni ei ddweud wrth ein meistr? Dim byd. Allwn ni ddim profi ein bod ni'n ddieuog. Mae Duw yn gwybod am y drwg wnaethon ni. Dy gaethweision di ydyn ni bellach. Ni a'r un oedd y gwpan ganddo.”
17. Ond dyma Joseff yn dweud, “Faswn i byth yn gwneud y fath beth! Yr un roedd y gwpan ganddo fydd yn gaethwas i mi. Mae'r gweddill ohonoch chi yn rhydd i fynd adre at eich tad.”
18. Yna dyma Jwda'n camu ymlaen a gofyn iddo, “Fy meistr, plîs gad i dy was gael gair gyda ti. Paid bod yn ddig. Rwyt ti fel y Pharo.
19. Roedd fy meistr wedi gofyn i'w weision, ‘Oes gynnoch chi dad, neu frawd arall?’
20. A dyma ninnau'n dweud, ‘Mae ein tad yn hen ddyn, ac mae gynnon ni frawd bach gafodd ei eni pan oedd dad mewn oed. Mae brawd y bachgen wedi marw. Fe ydy unig blentyn ei fam sydd ar ôl, ac mae ei dad yn ei garu'n fawr.’
21. Wedyn dyma ti'n dweud wrth dy weision, ‘Dewch ag e ata i, i mi gael ei weld.’
22. A dyma ninnau'n dweud wrth ein meistr, ‘All y bachgen ddim gadael ei dad. Byddai ei dad yn marw petai'n ei adael.’
23. Ond wedyn dyma ti'n dweud wrth dy weision, ‘Os fydd eich brawd bach ddim yn dod i lawr gyda chi, chewch chi ddim dod i'm gweld i eto.’
24. Aethon ni adre a dweud hyn i gyd wrth dy was, ein tad.
25. Felly pan ddwedodd ein tad wrthyn ni, ‘Ewch yn ôl i brynu ychydig o fwyd i ni,’
26. dyma ni'n dweud wrtho, ‘Allwn ni ddim oni bai bod ein brawd bach gyda ni. Gawn ni ddim gweld y dyn oni bai fod ein brawd bach gyda ni.’
27. A dyma dad yn dweud wrthon ni, ‘Dych chi'n gwybod mai dau fab roddodd fy ngwraig i mi.
28. Mae un wedi mynd – wedi ei rwygo'n ddarnau gan ryw anifail gwyllt mae'n debyg – a dw i ddim wedi ei weld ers hynny.