Genesis 44:1-17 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Joseff yn dweud wrth brif swyddog ei dŷ, “Llanw sachau'r dynion â chymaint o ŷd ag y gallan nhw ei gario. Wedyn rho arian pob un ohonyn nhw yng ngheg ei sach.

2. Rho fy nghwpan i, sef y gwpan arian, yng ngheg sach yr ifancaf ohonyn nhw, gyda'i arian am yr ŷd.” A dyma'r prif swyddog yn gwneud fel dwedodd Joseff.

3. Wrth iddi wawrio'r bore wedyn cychwynnodd y dynion ar eu taith adre gyda'r asynnod.

4. Doedden nhw ddim wedi mynd yn bell o'r ddinas, pan ddwedodd Joseff wrth ei brif swyddog. “Dos ar ôl y dynion yna! Pan fyddi di wedi eu dal nhw, gofyn iddyn nhw, ‘Pam dych chi wedi gwneud drwg i mi ar ôl i mi fod mor garedig atoch chi?’ Gofyn pam maen nhw wedi dwyn fy nghwpan arian i.

5. Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma'r gwpan mae fy meistr yn yfed ohoni ac yn darogan y dyfodol gyda hi. Dych chi wedi gwneud peth drwg iawn.’”

6. Pan ddaliodd y swyddog nhw, dyna ddwedodd e wrthyn nhw.

7. A dyma nhw'n ei ateb, “Syr, sut alli di ddweud y fath beth? Fyddai dy weision byth yn meiddio gwneud peth felly.

8. Daethon ni â'r arian gawson ni yng ngheg ein sachau yn ôl o wlad Canaan. Felly pam fydden ni eisiau dwyn arian neu aur o dŷ dy feistr?

9. Os ydy'r gwpan gan unrhyw un ohonon ni, dylai hwnnw farw, a bydd y gweddill ohonon ni'n gaethweision i'n meistr.”

10. “Chi sy'n dweud sut ddylech chi gael eich cosbi,” meddai. “Ond na, bydd pwy bynnag mae'r gwpan ganddo yn dod yn gaethwas i mi. Caiff y gweddill ohonoch chi fynd yn rhydd.”

11. Felly dyma nhw i gyd yn tynnu eu sachau i lawr ar unwaith ac yn eu hagor.

12. Edrychodd y swyddog yn y sachau i gyd. Dechreuodd gyda sach yr hynaf, a gorffen gyda'r ifancaf. A dyna lle roedd y gwpan, yn sach Benjamin.

13. Dyma nhw'n rhwygo eu dillad. Yna dyma nhw'n llwytho'r asynnod eto, a mynd yn ôl i'r ddinas.

14. Pan gyrhaeddodd Jwda a'i frodyr dŷ Joseff roedd e'n dal yno. A dyma nhw'n syrthio ar eu gliniau o'i flaen.

15. Gofynnodd Joseff iddyn nhw, “Pam ydych chi wedi gwneud hyn? Ydych chi ddim yn sylweddoli fod dyn fel fi yn gallu darogan beth sy'n digwydd?”

16. A dyma Jwda'n ateb, “Beth allwn ni ei ddweud wrth ein meistr? Dim byd. Allwn ni ddim profi ein bod ni'n ddieuog. Mae Duw yn gwybod am y drwg wnaethon ni. Dy gaethweision di ydyn ni bellach. Ni a'r un oedd y gwpan ganddo.”

17. Ond dyma Joseff yn dweud, “Faswn i byth yn gwneud y fath beth! Yr un roedd y gwpan ganddo fydd yn gaethwas i mi. Mae'r gweddill ohonoch chi yn rhydd i fynd adre at eich tad.”

Genesis 44