Genesis 38:23-27 beibl.net 2015 (BNET)

23. “Caiff hi gadw'r pethau rois i iddi,” meddai Jwda. “Anfonais i'r myn gafr iddi, ond roeddet ti'n methu dod o hyd iddi. Fyddwn ni'n ddim byd ond testun sbort os awn ni yn ôl yno.”

24. Tua tri mis yn ddiweddarach, dwedodd rhywun wrth Jwda, “Mae Tamar, dy ferch-yng-nghyfraith wedi bod yn cysgu o gwmpas. Mae hi'n disgwyl babi.” “Dewch â hi allan yma, a'i llosgi hi!” meddai Jwda.

25. Ond wrth iddyn nhw ddod â hi allan, dyma hi'n anfon neges at ei thad-yng-nghyfraith, “Y dyn sydd piau'r pethau yma sydd wedi fy ngwneud i'n feichiog. Edrych pwy sydd piau nhw – y sêl yma sydd ar gordyn, a'r ffon.”

26. Dyma Jwda'n gweld mai fe oedd piau nhw. “Hi sy'n iawn a fi sydd ar fai,” meddai. “Wnes i ddim ei rhoi hi'n wraig i'm mab Shela.” Wnaeth Jwda ddim cysgu gyda hi ar ôl hynny.

27. Pan ddaeth ei hamser hi, roedd ganddi efeilliaid.

Genesis 38