2. Yno dyma fe'n cyfarfod ac yn priodi merch i ddyn o Canaan o'r enw Shwa. Cysgodd gyda hi,
3. a dyma hi'n beichiogi ac yn cael mab. Galwodd Jwda'r plentyn yn Er.
4. Wedyn dyma hi'n beichiogi eto ac yn cael mab arall a'i alw yn Onan.
5. A chafodd fab arall eto a'i alw yn Shela. Roedd Jwda yn Chesib pan gafodd hi'r plentyn hwnnw.
6. Dyma Jwda yn cael gwraig i Er, ei fab hynaf. Tamar oedd ei henw hi.
7. Ond roedd Er yn ddrwg, a dyma'r ARGLWYDD yn gadael iddo farw.
8. Felly dwedodd Jwda wrth Onan, brawd Er, “Dy le di ydy cymryd gwraig dy frawd Er, a magu teulu iddo.”