14. Roedd Tamar yn gwybod fod Shela wedi tyfu, ac eto doedd hi ddim wedi cael ei rhoi yn wraig iddo. Felly dyma Tamar yn newid o'r dillad oedd yn dangos ei bod hi'n weddw, gwisgo i fyny, a rhoi fêl dros ei hwyneb. Yna aeth i eistedd ar ochr y ffordd y tu allan i bentref Enaim, sydd ar y ffordd i Timna.
15. Pan welodd Jwda hi, roedd yn meddwl mai putain oedd hi, gan ei bod hi wedi cuddio'i hwyneb.
16. Aeth draw ati ar ochr y ffordd, a dweud, “Tyrd, dw i eisiau rhyw gyda ti.” (Doedd e ddim yn gwybod mai ei ferch-yng-nghyfraith oedd hi.) A dyma hithau yn ateb, “Faint wnei di dalu i mi am gael rhyw gyda fi?”
17. “Wna i anfon myn gafr i ti o'r praidd,” meddai Jwda. A dyma hi'n ateb, “Dim ond os caf i rywbeth i'w gadw'n ernes nes i ti anfon yr afr i mi.”
18. “Beth wyt ti eisiau?” meddai. “Y sêl yna sydd ar y cordyn am dy wddf, a dy ffon di.” Felly dyma fe'n eu rhoi nhw iddi. Cafodd ryw gyda hi, a dyma hi'n beichiogi.
19. Aeth i ffwrdd ar unwaith, tynnu'r fêl, a gwisgo'i dillad gweddw eto.
20. Dyma Jwda'n anfon ei ffrind o Adwlam gyda'r myn gafr iddi, ac i gael y pethau roddodd e iddi yn ôl. Ond roedd y ffrind yn methu dod o hyd iddi.
21. Dyma fe'n holi dynion yr ardal amdani. “Ble mae'r butain cysegr oedd ar ochr y ffordd yn Enaim?” “Does dim putain cysegr yma,” medden nhw.
22. Felly aeth yn ôl at Jwda a dweud wrtho, “Dw i wedi methu dod o hyd iddi. Mae dynion yr ardal yn dweud fod dim putain cysegr yno.”
23. “Caiff hi gadw'r pethau rois i iddi,” meddai Jwda. “Anfonais i'r myn gafr iddi, ond roeddet ti'n methu dod o hyd iddi. Fyddwn ni'n ddim byd ond testun sbort os awn ni yn ôl yno.”