Genesis 36:32-38 beibl.net 2015 (BNET)

32. Roedd Bela fab Beor o dre Dinhaba yn frenin ar Edom.

33. Ar ôl i Bela farw, daeth Iobab fab Serach o Bosra yn frenin yn ei le.

34. Ar ôl i Iobab farw, daeth Chwsham o ardal Teman yn frenin yn ei le.

35. Ar ôl i Chwsham farw, daeth Hadad fab Bedad o dre Afith yn frenin yn ei le. Hadad wnaeth orchfygu Midian mewn brwydr yn Moab.

36. Ar ôl i Hadad farw, daeth Samla o Masreca yn frenin yn ei le.

37. Ar ôl i Samla farw, daeth Saul o Rehoboth-ger-yr-Afon yn frenin yn ei le.

38. Ar ôl i Saul farw, daeth Baal-chanan fab Achbor yn frenin yn ei le.

Genesis 36