Genesis 34:5-14 beibl.net 2015 (BNET)

5. Clywodd Jacob fod Sechem wedi treisio ei ferch, Dina. Roedd ei feibion allan yn y wlad yn gofalu am yr anifeiliaid ar y pryd. A penderfynodd Jacob beidio dweud dim tan iddyn nhw ddod adre.

6. Dyma Hamor, tad Sechem, yn mynd i siarad gyda Jacob am Dina.

7. Yn y cyfamser roedd meibion Jacob wedi cyrraedd yn ôl. Roedden nhw wedi clywed y newyddion, yn teimlo'r sarhad ac yn wyllt gynddeiriog. Roedd Sechem wedi gwneud peth gwarthus yn Israel drwy ymosod yn rhywiol ar ferch Jacob – rhywbeth na ddylai byth fod wedi digwydd.

8. Ond dyma Hamor yn apelio arnyn nhw, “Mae Sechem dros ei ben a'i glustiau mewn cariad gyda'r ferch. Plîs gadewch iddo ei phriodi hi.

9. Gadewch i ni gytuno fod ein plant ni'n cael priodi ei gilydd. Gadewch i'ch merched chi briodi rhai o'n dynion ni, a chewch chi briodi ein merched ni.

10. Cewch fyw yma gyda ni. Mae'r wlad o'ch blaen chi. Arhoswch yma. Cewch fynd ble mynnwch chi, a phrynu tir yma.”

11. Wedyn dyma Sechem ei hun yn dweud wrth dad a brodyr Dina, “Plîs wnewch chi fy nerbyn i? Dw i'n fodlon rhoi i chi beth bynnag dych chi eisiau.

12. Gwnewch y tâl am y briodferch mor uchel ag y mynnwch chi. Dw i'n fodlon talu unrhyw beth, dim ond i chi roi'r ferch yn wraig i mi.”

13. Ond am fod Sechem wedi treisio eu chwaer, dyma frodyr Dina yn twyllo Sechem a Hamor ei dad.

14. Dyma nhw'n dweud wrthyn nhw, “Allwn ni ddim gadael i'n chwaer briodi dyn sydd heb fod drwy ddefod enwaediad. Byddai hynny'n gywilydd mawr arnon ni.

Genesis 34