Genesis 34:14-25 beibl.net 2015 (BNET)

14. Dyma nhw'n dweud wrthyn nhw, “Allwn ni ddim gadael i'n chwaer briodi dyn sydd heb fod drwy ddefod enwaediad. Byddai hynny'n gywilydd mawr arnon ni.

15. Allwn ni ddim ond cytuno ar un amod: rhaid i bob un o'ch dynion chi gael ei enwaedu yr un fath â ni.

16. Os gwnewch chi hynny, cewch briodi ein merched ni a byddwn ni'n priodi eich merched chi. Byddwn yn dod i fyw atoch chi, a byddwn ni'n un bobl.

17. Ond os gwrthodwch chi gael eich enwaedu, awn ni i ffwrdd, a mynd â'n chwaer gyda ni.”

18. Roedd eu cynnig yn swnio'n dda i Hamor a'i fab Sechem.

19. Felly dyma Sechem yn cytuno ar unwaith. Roedd e eisiau Dina, merch Jacob, gymaint. (A fe oedd y person pwysica yn y teulu i gyd.)

20. Felly dyma Hamor a'i fab Sechem yn mynd at giât y dre ble roedden nhw'n byw i siarad â'r dynion yno. A dyma ddwedon nhw:

21. “Mae'r bobl yma'n gyfeillgar. Gadewch iddyn nhw fyw yn y wlad yma, a mynd i ble fynnan nhw. Mae yna ddigon o dir iddyn nhw. Gadewch i ni briodi eu merched nhw, a cân nhw briodi ein merched ni.

22. Ond wnân nhw ddim ond cytuno i fyw gyda ni a bod yn un bobl gyda ni ar yr amod yma: rhaid i'n dynion ni i gyd gael eu henwaedu yr un fath â nhw.

23. Onid ni fydd piau'r holl anifeiliaid a phopeth arall sydd ganddyn nhw wedyn? Gadewch i ni gytuno gyda nhw a gadael iddyn nhw fyw gyda ni.”

24. Dyma'r dynion ar gyngor y dre yn cytuno gyda Hamor a'i fab Sechem. A dyma bob un o ddynion y dre yn mynd drwy'r ddefod o gael eu henwaedu.

25. Ddeuddydd wedyn, pan oedden nhw'n dal mewn poen, aeth dau o feibion Jacob, Simeon a Lefi (brodyr Dina), i mewn i'r dre yn dawel fach, a lladd y dynion i gyd.

Genesis 34