Genesis 33:18-20 beibl.net 2015 (BNET)

18. Roedd Jacob wedi teithio o Padan-aram, a chyrraedd yn saff yn y diwedd yn nhre Sichem yn Canaan. Gwersyllodd heb fod yn bell o'r dre.

19. Wedyn prynodd y tir ble roedd wedi gwersylla gan feibion Hamor (tad Sechem) am gant o ddarnau arian.

20. Cododd allor i Dduw yno, a'i galw yn El-Elohe-Israel.

Genesis 33