Genesis 33:11-20 beibl.net 2015 (BNET)

11. Plîs derbyn y rhodd gen i. Mae Duw wedi bod mor garedig ata i. Mae gen i bopeth dw i eisiau.” Am ei fod yn pwyso arno dyma Esau yn ei dderbyn.

12. Wedyn dyma Esau yn dweud, “I ffwrdd â ni felly! Gwna i'ch arwain chi.”

13. Ond atebodd Jacob, “Mae'r plant yn ifanc, fel y gweli, syr. Ac mae'n rhaid i mi edrych ar ôl yr anifeiliaid sy'n magu rhai bach. Os byddan nhw'n cael eu gyrru'n rhy galed, hyd yn oed am ddiwrnod, byddan nhw i gyd yn marw.

14. Dos di o flaen dy was. Bydda i'n dod yn araf ar dy ôl di – mor gyflym ac y galla i gyda'r anifeiliaid a'r plant. Gwna i dy gyfarfod di yn Seir.”

15. “Gad i mi adael rhai o'r dynion yma i fynd gyda ti,” meddai Esau wedyn. “I beth?” meddai Jacob. “Mae fy arglwydd wedi bod mor garedig yn barod.”

16. Felly dyma Esau yn troi'n ôl am Seir y diwrnod hwnnw.

17. Ond aeth Jacob i'r cyfeiriad arall, i Swccoth. Dyma fe'n adeiladu tŷ iddo'i hun yno, a chytiau i'w anifeiliaid gysgodi. Dyna pam y galwodd y lle yn Swccoth.

18. Roedd Jacob wedi teithio o Padan-aram, a chyrraedd yn saff yn y diwedd yn nhre Sichem yn Canaan. Gwersyllodd heb fod yn bell o'r dre.

19. Wedyn prynodd y tir ble roedd wedi gwersylla gan feibion Hamor (tad Sechem) am gant o ddarnau arian.

20. Cododd allor i Dduw yno, a'i galw yn El-Elohe-Israel.

Genesis 33