1. Edrychodd Jacob a gweld Esau yn dod yn y pellter gyda phedwar cant o ddynion. Felly dyma fe'n rhannu'r plant rhwng Lea, Rachel a'r ddwy forwyn.
2. Rhoddodd y ddwy forwyn a'u plant ar y blaen, wedyn Lea a'i phlant hi, a Rachel a Joseff yn olaf.
3. Aeth Jacob ei hun o'u blaenau nhw i gyd. Ymgrymodd yn isel saith gwaith wrth iddo agosáu at ei frawd.
4. Ond rhedodd Esau ato a'i gofleidio'n dynn a'i gusanu. Roedd y ddau ohonyn nhw'n crïo.
5. Pan welodd Esau y gwragedd a'r plant, gofynnodd “Pwy ydy'r rhain?” A dyma Jacob yn ateb, “Dyma'r plant mae Duw wedi bod mor garedig â'u rhoi i dy was.”
6. Dyma'r morynion yn camu ymlaen gyda'u plant, ac yn ymgrymu.
7. Wedyn daeth Lea ymlaen gyda'i phlant hi, ac ymgrymu. Ac yn olaf daeth Joseff a Rachel, ac ymgrymu.
8. “Beth oedd dy fwriad di yn anfon yr anifeiliaid yna i gyd ata i?” meddai Esau. Atebodd Jacob, “Er mwyn i'm meistr fy nerbyn i.”
9. “Mae gen i fwy na digon, fy mrawd,” meddai Esau. “Cadw beth sydd piau ti.”
10. “Na wir, plîs cymer nhw,” meddai Jacob. “Os wyt ti'n fy nerbyn i, derbyn nhw fel anrheg gen i. Mae gweld dy wyneb di fel gweld wyneb Duw – rwyt ti wedi rhoi'r fath groeso i mi.
11. Plîs derbyn y rhodd gen i. Mae Duw wedi bod mor garedig ata i. Mae gen i bopeth dw i eisiau.” Am ei fod yn pwyso arno dyma Esau yn ei dderbyn.
12. Wedyn dyma Esau yn dweud, “I ffwrdd â ni felly! Gwna i'ch arwain chi.”