Genesis 31:53-55 beibl.net 2015 (BNET)

53. Boed i dduwiau Abraham a Nachor, duwiau eu tad nhw, farnu rhyngon ni.” Felly dyma Jacob yn gwneud adduned i'r Duw roedd ei dad Isaac yn ei addoli.

54. A dyma Jacob yn cyflwyno aberth i Dduw ar y mynydd a gwahodd ei deulu i gyd i fwyta. A dyma nhw'n aros yno drwy'r nos.

55. Yn gynnar y bore wedyn dyma Laban yn rhoi cusan i'w ferched a'u plant ac yn eu bendithio nhw cyn troi am adre.

Genesis 31