Genesis 31:2-7 beibl.net 2015 (BNET)

2. A daeth Jacob i weld fod agwedd Laban tuag ato wedi newid hefyd.

3. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jacob, “Dos yn ôl adre at dy deulu a dy bobl. Bydda i gyda ti.”

4. Felly dyma Jacob yn anfon rhywun i nôl Rachel a Lea, a dod â nhw allan i'r wlad lle roedd y preiddiau.

5. Dwedodd wrthyn nhw, “Dw i wedi sylwi fod agwedd eich tad tuag ata i wedi newid. Ond mae'r Duw mae fy nhad yn ei addoli wedi bod gyda mi.

6. Mae'r ddwy ohonoch yn gwybod mor galed dw i wedi gweithio i'ch tad.

7. Ond mae'ch tad wedi gwneud ffŵl ohono i, a newid fy nghyflog dro ar ôl tro. Ond wnaeth Duw ddim gadael iddo wneud niwed i mi.

Genesis 31