Genesis 29:15-25 beibl.net 2015 (BNET)

15. ac meddai Laban wrtho, “Ddylet ti ddim bod yn gweithio i mi am ddim am dy fod yn perthyn i mi. Dywed beth rwyt ti eisiau'n gyflog.”

16. Roedd gan Laban ddwy ferch – Lea, yr hynaf, a Rachel, yr ifancaf.

17. Roedd gan Lea lygaid hyfryd, ond roedd Rachel yn ferch siapus ac yn wirioneddol hardd.

18. Roedd Jacob wedi syrthio mewn cariad hefo Rachel, ac meddai wrth Laban, “Gwna i weithio i ti am saith mlynedd os ca i briodi Rachel, dy ferch ifancaf.”

19. “Byddai'n well gen i ei rhoi hi i ti nag i unrhyw ddyn arall,” meddai Laban. “Aros di yma i weithio i mi.”

20. Felly dyma Jacob yn gweithio am saith mlynedd er mwyn cael priodi Rachel. Ond roedd fel ychydig ddyddiau i Jacob am ei fod yn ei charu hi gymaint.

21. Ar ddiwedd y saith mlynedd dyma Jacob yn dweud wrth Laban, “Dw i wedi gweithio am yr amser wnaethon ni gytuno, felly rho fy ngwraig i mi, i mi gael cysgu hefo hi.”

22. Felly dyma Laban yn trefnu parti i ddathlu, ac yn gwahodd pobl y cylch i gyd i'r parti.

23. Ond ar ddiwedd y noson daeth Laban â'i ferch Lea at Jacob, a dyma Jacob yn cysgu gyda hi.

24. (Ac roedd Laban wedi rhoi ei forwyn Silpa i'w ferch Lea i fod yn forwyn iddi hi.)

25. Y bore wedyn cafodd Jacob sioc – dyna ble roedd Lea yn gorwedd gydag e! Aeth at Laban, “Beth yn y byd rwyt ti wedi ei wneud i mi?” meddai Jacob. “Roeddwn i wedi gweithio i ti er mwyn cael Rachel. Pam wyt ti wedi fy nhwyllo i?”

Genesis 29