Genesis 29:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Jacob yn bwrw ymlaen ar ei daith, ac yn dod i wlad pobl y dwyrain.

2. Daeth ar draws pydew dŵr yng nghanol y wlad, a thri praidd o ddefaid yn gorwedd o gwmpas y pydew. Dyna ble roedd yr anifeiliaid yn cael dŵr. Roedd carreg fawr yn gorwedd ar geg y pydew.

3. Pan fyddai'r preiddiau i gyd wedi cyrraedd yno, byddai'r bugeiliaid yn symud y garreg a rhoi dŵr i'r defaid. Wedyn bydden nhw'n rhoi'r garreg yn ôl ar geg y pydew.

4. Gofynnodd Jacob iddyn nhw, “O ble dych chi'n dod, frodyr?” “O Haran,” medden nhw.

5. “Ydych chi'n nabod Laban fab Nachor?” holodd Jacob. “Ydyn,” medden nhw.

6. “Sut mae e'n cadw?” gofynnodd Jacob. “Mae e'n cadw'n dda,” medden nhw. “Edrych, dyma Rachel, ei ferch, yn cyrraedd gyda'i defaid.”

7. Yna dyma Jacob yn dweud wrthyn nhw, “Edrychwch, mae'n dal yn olau dydd. Dydy hi ddim yn amser casglu'r anifeiliaid at ei gilydd eto. Rhowch ddŵr iddyn nhw, a mynd â nhw allan i bori am ychydig mwy.”

8. “Ond allwn ni ddim gwneud hynny nes bydd y preiddiau i gyd wedi cyrraedd,” medden nhw. “Dyna pryd byddwn ni'n symud y garreg oddi ar geg y pydew ac yn rhoi dŵr i'r defaid.”

9. Tra oedd e'n dal i siarad â nhw, dyma Rachel yn cyrraedd gyda defaid ei thad. Hi oedd yn gofalu amdanyn nhw.

10. Pan welodd Jacob Rachel, merch ei ewythr Laban, gyda'r defaid, dyma fe'n symud y garreg oddi ar geg y pydew, a rhoi dŵr i braidd ei ewythr.

11. Yna aeth at Rachel, a'i chyfarch gyda chusan. Roedd yn methu peidio crïo.

12. Dwedodd wrth Rachel ei fod yn nai i'w thad, ac yn fab i Rebeca. A dyma Rachel yn rhedeg i ddweud wrth ei thad.

13. Pan glywodd Laban y newyddion am Jacob, mab ei chwaer, rhuthrodd allan i'w gyfarfod. Rhoddodd groeso brwd iddo drwy ei gofleidio a'i gusanu, ac aeth ag e i'w dŷ. Wedyn dwedodd Jacob bopeth wrth Laban.

14. “Rwyt ti wir yn un o nheulu i!” meddai Laban.Roedd Jacob wedi aros gyda Laban am fis,

Genesis 29