Genesis 27:21-27 beibl.net 2015 (BNET)

21. Wedyn dyma Isaac yn dweud wrth Jacob, “Tyrd yma i mi gael dy gyffwrdd di. Dw i eisiau bod yn siŵr mai Esau wyt ti.”

22. Felly aeth Jacob at ei dad, a dyma Isaac yn gafael yn ei law. “Llais Jacob dw i'n ei glywed,” meddai, “ond dwylo Esau ydy'r rhain.”

23. (Wnaeth e ddim ei nabod am fod y dwylo'n flewog fel dwylo Esau. Dyna pam wnaeth Isaac fendithio Jacob.)

24. “Fy mab Esau wyt ti go iawn?” gofynnodd Isaac. “Ie,” meddai Jacob.

25. “Tyrd â'r helfa yma i mi gael bwyta cyn dy fendithio di,” meddai Isaac. Felly daeth Jacob â'r bwyd iddo, a dyma Isaac yn ei fwyta. Daeth â gwin iddo ei yfed hefyd.

26. Wedyn dyma Isaac yn dweud, “Tyrd yma a rho gusan i mi fy mab.”

27. A dyma Jacob yn mynd ato a rhoi cusan iddo. Pan glywodd Isaac yr arogl ar ddillad ei fab, dyma fe'n ei fendithio, a dweud,“Ie, mae fy mab yn aroglifel y tir mae'r ARGLWYDD wedi ei fendithio.

Genesis 27