Genesis 26:8-18 beibl.net 2015 (BNET)

8. Pan oedd Isaac wedi bod yn byw yno am amser hir, digwyddodd Abimelech, brenin y Philistiaid, edrych allan o'r ffenest a gweld Isaac yn anwesu ei wraig Rebeca.

9. Dyma Abimelech yn gofyn i Isaac fynd i'w weld, a dwedodd wrtho, “Felly, dy wraig di ydy hi go iawn! Pam wnest ti ddweud, ‘Fy chwaer i ydy hi’?” Atebodd Isaac, “Roedd gen i ofn i rywun fy lladd i er mwyn ei chael hi.”

10. “Beth yn y byd ti'n meddwl rwyt ti'n wneud?” meddai Abimelech. “Beth petai un o'r dynion wedi cysgu hefo hi? Byddet ti wedi'n gwneud ni i gyd yn euog.”

11. Felly dyma Abimelech yn rhoi gorchymyn i'w bobl, “Os bydd unrhyw un yn cyffwrdd â'r dyn yma neu ei wraig, y gosb fydd marwolaeth.”

12. Dyma Isaac yn hau had ar y tir y flwyddyn honno a chafodd gnwd oedd gan gwaith cymaint yn ôl. Roedd yr ARGLWYDD yn ei fendithio.

13. Roedd yn ddyn llwyddiannus iawn, a daeth yn gyfoethog dros ben.

14. Roedd ganddo gymaint o ddefaid a gwartheg, a gweision, nes bod y Philistiaid yn genfigennus ohono.

15. Felly dyma'r Philistiaid yn llenwi'r pydewau dŵr i gyd gyda pridd. (Roedd y pydewau hynny wedi cael eu cloddio gan weision Abraham pan oedd Abraham yn dal yn fyw.)

16. A dyma Abimelech yn dweud wrth Isaac, “Ti'n llawer cryfach na ni bellach, felly rhaid i ti adael ein gwlad ni.”

17. Felly dyma Isaac yn mynd ac yn gwersylla wrth Wadi Gerar.

18. Roedd Isaac wedi ailagor y pydewau dŵr gafodd eu cloddio pan oedd Abraham yn fyw (Y rhai roedd y Philistiaid wedi eu llenwi ar ôl i Abraham farw.) Ac roedd Isaac wedi eu galw nhw wrth yr enwau roddodd ei dad iddyn nhw'n wreiddiol.

Genesis 26