Genesis 26:24-30 beibl.net 2015 (BNET)

24. Y noson honno dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos iddo. Dwedodd wrtho, “Fi ydy Duw Abraham dy dad. Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Bydda i'n dy fendithio di ac yn rhoi lot fawr o ddisgynyddion i ti o achos Abraham fy ngwas.”

25. Felly dyma fe'n codi allor yno ac addoli'r ARGLWYDD. Gwersyllodd yno am gyfnod, a dyma gweision Isaac yn cloddio pydew yno hefyd.

26. Dyma Abimelech yn dod ato o Gerar, gydag Achwsath ei gynghorwr a Pichol pennaeth ei fyddin.

27. Gofynnodd Isaac iddyn nhw, “Pam ydych chi wedi dod yma? Dych chi'n fy nghasáu i, ac wedi fy anfon i ffwrdd oddi wrthych.”

28. Dyma nhw'n ateb, “Mae'n hollol amlwg i ni fod yr ARGLWYDD gyda ti. Felly dŷn ni eisiau gwneud cytundeb hefo ti.

29. Wnei di addo peidio ymosod arnon ni? Wnaethon ni ddim drwg i ti, dim ond da, a chefaist dy anfon i ffwrdd mewn heddwch. Mae'r ARGLWYDD wedi dy fendithio di.”

30. Felly dyma Isaac yn paratoi gwledd iddyn nhw, a dyma nhw'n bwyta ac yn yfed gyda'i gilydd.

Genesis 26