3. Felly dyma Abraham yn codi'n fore, torri coed ar gyfer llosgi'r offrwm, a'u rhoi ar gefn ei asyn. Aeth â dau o'i weision ifanc gydag e, a hefyd ei fab, Isaac. A dechreuodd ar y daith i ble roedd Duw wedi dweud wrtho.
4. Ar ôl teithio am ddeuddydd roedd Abraham yn gweld pen y daith yn y pellter.
5. Dwedodd wrth ei weision, “Arhoswch chi yma gyda'r asyn tra dw i a'r bachgen yn mynd draw acw. Dŷn ni'n mynd i addoli Duw, ac wedyn down ni'n ôl atoch chi.”
6. Dyma Abraham yn rhoi'r coed ar gefn ei fab, Isaac. Wedyn cymerodd y tân a'r gyllell, ac aeth y ddau yn eu blaenau gyda'i gilydd.
7. “Dad,” meddai Isaac wrth Abraham. “Ie, machgen i?” meddai Abraham. “Dad, mae gen ti dân a choed ar gyfer llosgi'r offrwm, ond ble mae'r oen sydd i gael ei aberthu?”