Genesis 15:6-12 beibl.net 2015 (BNET)

6. Credodd Abram yr ARGLWYDD, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gydag e.

7. Wedyn dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi dod â ti yma o Ur yn Babilonia. Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i ti.”

8. Ond dyma Abram yn gofyn, “O Feistr, ARGLWYDD, sut alla i fod yn siŵr dy fod ti'n mynd i'w rhoi i mi?”

9. Yna dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Tyrd â heffer, gafr a hwrdd yma – pob un ohonyn nhw'n dair blwydd oed – a hefyd turtur a cholomen ifanc.”

10. Dyma Abram yn dod â'r tri anifail, yn eu hollti nhw ar eu hyd, a gosod y ddau ddarn gyferbyn â'i gilydd. Ond wnaeth e ddim hollti'r adar yn eu hanner.

11. Pan oedd fwlturiaid yn dod i lawr ar y cyrff roedd Abram yn eu hel nhw i ffwrdd.

12. Ond gyda'r nos, pan oedd hi'n machlud, dyma Abram yn syrthio i gysgu'n drwm. A daeth tywyllwch a dychryn ofnadwy drosto.

Genesis 15