9. Fe oedd yr heliwr gorau yn y byd i gyd. Dyna pam mae'r hen ddywediad yn dweud, “Mae fel Nimrod, yr heliwr gorau welodd yr ARGLWYDD.”
10. Dechreuodd ei ymerodraeth gyda dinasoedd Babel, Erech, Accad a Calne yng ngwlad Babilonia.
11. Wedyn lledodd ei ymerodraeth i Asyria, ac adeiladodd ddinasoedd Ninefe, Rehoboth-ir, Cala,
12. a Resen (sydd rhwng Ninefe a dinas fawr Cala.)
13. Disgynyddion Mitsraïm oedd y Lydiaid, Anamiaid, Lehabiaid (pobl Libia), Nafftwiaid,
14. Pathrwsiaid, Caslwchiaid (y daeth y Philistiaid ohonyn nhw), a'r Cafftoriaid.
15. Disgynyddion Canaan oedd pobl Sidon (o'i fab hynaf), yr Hethiaid,
16. y Jebwsiaid, Amoriaid, Girgasiaid,
17. Hefiaid, Arciaid, Siniaid,
18. Arfadiaid, Semariaid, a phobl Chamath. Cafodd llwythau'r Canaaneaid eu gwasgaru
19. nes bod eu ffiniau nhw yn estyn o Sidon yr holl ffordd i Gerar ac i fyny i Gasa, ac wedyn yr holl ffordd i Sodom, Gomorra, Adma, a Seboïm, mor bell â Lesha.
20. Felly dyna ddisgynyddion Cham yn ôl eu llwythau, ieithoedd, tiroedd a chenhedloedd.
21. Cafodd Shem, brawd hynaf Jaffeth, feibion hefyd. Shem oedd tad disgynyddion Eber i gyd.