2. Meibion Jaffeth: Gomer, Magog, Madai, Iafan, Twbal, Meshech, a Tiras.
3. Disgynyddion Gomer oedd pobl Ashcenas, Riffath, a Togarma.
4. Disgynyddion Iafan oedd pobl Elisha, Tarshish, Cittim, a Dodanîm,
5. sef pobloedd yr arfordir a'r ynysoedd. Rhannodd y rhain yn genhedloedd gwahanol gyda'u tiroedd, a phob grŵp ethnig gyda'i iaith ei hun.
6. Meibion Cham: Cwsh, Mitsraïm, Pwt, a Canaan.
7. Disgynyddion Cwsh oedd pobl Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabtecha. Disgynyddion Raama oedd pobl Sheba a Dedan.
8. Cafodd Cwsh fab arall o'r enw Nimrod. Nimrod oedd y concwerwr cyntaf.
9. Fe oedd yr heliwr gorau yn y byd i gyd. Dyna pam mae'r hen ddywediad yn dweud, “Mae fel Nimrod, yr heliwr gorau welodd yr ARGLWYDD.”