Genesis 10:17-23 beibl.net 2015 (BNET)

17. Hefiaid, Arciaid, Siniaid,

18. Arfadiaid, Semariaid, a phobl Chamath. Cafodd llwythau'r Canaaneaid eu gwasgaru

19. nes bod eu ffiniau nhw yn estyn o Sidon yr holl ffordd i Gerar ac i fyny i Gasa, ac wedyn yr holl ffordd i Sodom, Gomorra, Adma, a Seboïm, mor bell â Lesha.

20. Felly dyna ddisgynyddion Cham yn ôl eu llwythau, ieithoedd, tiroedd a chenhedloedd.

21. Cafodd Shem, brawd hynaf Jaffeth, feibion hefyd. Shem oedd tad disgynyddion Eber i gyd.

22. Meibion Shem: Elam, Ashŵr, Arffacsad, Lwd, ac Aram.

23. Disgynyddion Aram oedd pobl Us, Chwl, Gether, a Mash.

Genesis 10