8. Rhoddodd Duw yr enw "awyr" iddi, ac roedd nos a dydd ar yr ail ddiwrnod.
9. Dwedodd Duw, “Dw i eisiau i'r dŵr sydd dan yr awyr gasglu i un lle, er mwyn i ddaear sych ddod i'r golwg.” A dyna ddigwyddodd.
10. Rhoddodd Duw yr enw "tir" i'r ddaear, a "moroedd" i'r dŵr. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda.
11. Yna dwedodd Duw, “Dw i eisiau i laswellt dyfu o'r tir, a phob math o blanhigion sydd â hadau ynddyn nhw, a choed ffrwythau. Bydd yr hadau ynddyn nhw yn gwneud i fwy o'r planhigion gwahanol hynny dyfu.” A dyna ddigwyddodd.
12. Roedd y tir wedi ei orchuddio gyda glaswellt a phlanhigion a choed o bob math, â'u hadau eu hunain ynddyn nhw. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda,
13. ac roedd nos a dydd ar y trydydd diwrnod.
14. Dwedodd Duw, “Dw i eisiau goleuadau yn yr awyr i wahanu'r dydd a'r nos. Byddan nhw hefyd yn arwyddion i fesur y tymhorau, y dyddiau a'r blynyddoedd.
15. Byddan nhw'n goleuo'r ddaear o'r awyr.” A dyna ddigwyddodd.
16. Gwnaeth Duw ddau olau mawr – yr haul a'r lleuad. Roedd yr un mwya disglair, sef yr haul, i reoli'r dydd, a'r golau lleiaf, sef y lleuad, i reoli'r nos. Gwnaeth Duw y sêr hefyd.
17. Gosododd nhw i gyd yn yr awyr i oleuo'r ddaear,
18. i reoli dydd a nos, ac i wahanu'r golau oddi wrth y tywyllwch. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda,
19. ac roedd nos a dydd ar y pedwerydd diwrnod.