15. Ond os dych chi'n gwneud dim byd ond cega ac ymosod ar eich gilydd, gwyliwch eich hunain! Byddwch chi'n dinistrio eich gilydd.
16. Beth dw i'n ei ddweud ydy y dylech adael i'r Ysbryd reoli'ch bywydau chi, wedyn fyddwch chi ddim yn gwneud beth mae'r chwantau eisiau.
17. Mae ein natur bechadurus ni am i ni wneud drwg – yn hollol groes i beth mae'r Ysbryd eisiau. Ond mae'r Ysbryd yn rhoi'r awydd i ni wneud fel arall, sef y gwrthwyneb i beth mae'r natur bechadurus eisiau. Mae brwydr barhaus yn mynd ymlaen – allwch chi ddim dianc rhagddi.
18. Ond os ydy'r Ysbryd yn eich arwain chi, dych chi ddim yn gaeth i'r Gyfraith Iddewig bellach.
19. Mae canlyniadau gwrando ar y natur bechadurus yn gwbl amlwg: anfoesoldeb rhywiol, meddyliau mochaidd a penrhyddid llwyr;
20. hefyd addoli eilun-dduwiau a dewiniaeth; a phethau fel casineb, ffraeo, cenfigen, gwylltio, uchelgais hunanol, rhaniadau, carfanau gwahanol,
21. eiddigeddu, meddwi, partïon gwyllt, a phechodau tebyg. Dw i'n eich rhybuddio chi eto, fel dw i wedi gwneud o'r blaen, fydd pobl sy'n byw felly ddim yn cael perthyn i deyrnas Dduw.
22. Ond dyma'r ffrwyth mae'r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb,
23. addfwynder a hunanreolaeth. Does dim cyfraith yn erbyn pethau felly.
24. Mae pobl y Meseia Iesu wedi lladd y natur bechadurus gyda'i nwydau a'i chwantau drwy ei hoelio hi ar y groes.
25. Felly os ydy'r Ysbryd wedi rhoi bywyd i ni rhaid i ni adael i'r Ysbryd ein harwain ni.
26. Gadewch i ni beidio bod yn falch, a phryfocio'n gilydd a bod yn eiddigeddus o'n gilydd.