Galatiaid 5:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dŷn ni'n rhydd! Mae'r Meseia wedi'n gollwng ni'n rhydd! Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn aros felly, a gwrthod cario'r baich o fod yn gaeth byth eto.

2. Gwrandwch yn ofalus! Dyma dw i, Paul, yn ei ddweud wrthoch chi – os dych chi'n mynd trwy'r ddefod o gael eich enwaedu yn y gobaith o blesio Duw, does gan y Meseia ddim i'w gynnig i chi bellach.

3. Dw i'n eich rhybuddio chi eto – os ydy dyn yn cael ei enwaedu, mae ganddo gyfrifoldeb wedyn i wneud popeth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn.

4. Os dych chi'n ceisio cael perthynas iawn gyda Duw drwy gadw rheolau'r Gyfraith, dych chi wedi eich torri i ffwrdd oddi wrth y Meseia! Dych chi wedi colli gafael ar rodd Duw.

5. Ond wrth gredu a byw yn nerth yr Ysbryd dŷn ni'n gallu edrych ymlaen yn frwd at gael perthynas hollol iawn gyda Duw – dyna'n gobaith sicr ni.

6. Os oes gynnoch chi berthynas gyda'r Meseia Iesu does dim gwahaniaeth os dych chi wedi bod trwy'r ddefod o gael eich enwaedu neu beidio. Credu sy'n bwysig – ffydd yn mynegi ei hun mewn bywyd o gariad.

Galatiaid 5