Galatiaid 4:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma dw i'n olygu: Does gan blentyn sy'n mynd i dderbyn eiddo ei dad ddim mwy o hawliau na chaethwas tra mae'n dal dan oed – er mai'r plentyn hwnnw biau'r cwbl ar un ystyr!

2. Mae gofalwyr ac ymddiriedolwyr yn gyfrifol am y plentyn nes daw i'r oed roedd ei dad wedi penderfynu y byddai'n ddigon cyfrifol i edrych ar ei ôl ei hun.

3. Felly gyda ninnau; pan oedden ni ddim yn deall yn iawn, roedden ni'n gaeth i'r pwerau a'r dylanwadau drwg sy'n rheoli'r byd.

4. Ond ar yr union adeg roedd Duw wedi ei ddewis, anfonodd ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni dan y Gyfraith,

5. i dalu'r pris i'n rhyddhau ni oedd yn gaeth i'r Gyfraith, er mwyn i ni gael ein mabwysiadu'n blant i Dduw.

6. A chan eich bod chi sydd ddim yn Iddewon hefyd yn blant iddo bellach, anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i'n calonnau ni i gyd, sef yr Ysbryd sy'n gweiddi, “Abba! Dad!”

7. Felly dim caethweision ydych chi bellach, ond plant Duw; a chan eich bod yn blant iddo, byddwch chithau'n derbyn gan Dduw y cwbl mae wedi addo ei roi i chi.

Galatiaid 4