Galatiaid 3:21-29 beibl.net 2015 (BNET)

21. Felly, ydy hyn yn golygu bod y Gyfraith yn gwrth-ddweud beth wnaeth Duw ei addo? Na, dim o gwbl! Petai Duw wedi rhoi cyfraith oedd yn gallu rhoi bywyd i bobl, yna'n sicr byddai pobl yn gallu cael perthynas iawn gyda Duw drwy gadw rheolau'r gyfraith honno.

22. Ond mae'r ysgrifau sanctaidd yn dangos yn glir fod pawb drwy'r byd i gyd yn gaeth i bechod. Y rhai sy'n credu sy'n derbyn beth wnaeth Duw ei addo, a hynny am fod Iesu Grist wedi bod yn ffyddlon.

23. Cyn i'r Meseia ddod roedd y Gyfraith yn ein dal ni'n gaeth โ€“ roedden ni dan glo nes i'w ffyddlondeb e gael ei ddangos i ni.

24. Pwrpas y Gyfraith oedd ein gwarchod ni a'n harwain ni at y Meseia, er mwyn i ni ddod i berthynas iawn gyda Duw trwy gredu ynddo.

25. Mae e wedi bod yn ffyddlon, ac felly dim y Gyfraith sy'n ein gwarchod ni bellach.

26. Dych chi i gyd yn blant Duw drwy gredu yn y Meseia Iesu.

27. Mae pob un ohonoch chi wedi uniaethu gyda'r Meseia trwy eich bedydd โ€“ mae'r un fath รข'ch bod wedi gwisgo'r Meseia amdanoch.

28. Sdim ots os ydych chi'n Iddew neu'n perthyn i genedl arall, yn gaethwas neu'n ddinesydd rhydd, yn ddyn neu'n wraig โ€“ dych chi i gyd fel un teulu sy'n perthyn i'r Meseia Iesu.

29. Os dych chi'n perthyn i'r Meseia, dych chi'n blant i Abraham, a byddwch yn derbyn yr holl bethau da mae Duw wedi eu haddo.

Galatiaid 3