7. Na, yn hollol i'r gwrthwyneb! Roedd hi'n gwbl amlwg iddyn nhw fod Duw wedi rhoi'r dasg i mi o gyhoeddi'r newyddion da i bobl o genhedloedd eraill, yn union fel roedd wedi rhoi'r dasg i Pedr o'i gyhoeddi i'r Iddewon.
8. Roedd yr un Duw oedd yn defnyddio Pedr fel ei gynrychiolydd i'r Iddewon, yn fy nefnyddio i gyda phobl o genhedloedd eraill.
9. Dyma Iago, Pedr ac Ioan (y rhai sy'n cael eu cyfri fel ‛y pileri‛, sef yr arweinwyr pwysica) yn derbyn Barnabas a fi fel partneriaid llawn. Roedden nhw'n gweld mai Duw oedd wedi rhoi'r gwaith yma i mi. Y cytundeb oedd ein bod ni'n mynd at bobl y cenhedloedd a nhw'n mynd at yr Iddewon.
10. Yr unig beth roedden nhw'n pwyso arnon ni i'w wneud oedd i beidio anghofio'r tlodion, ac roedd hynny'n flaenoriaeth gen i beth bynnag!
11. Ond wedyn pan ddaeth Pedr i ymweld ag Antiochia, roedd rhaid i mi dynnu'n groes iddo, am ei bod hi'n amlwg ei fod e ar fai.
12. Ar y dechrau roedd yn ddigon parod i rannu pryd o fwyd gyda phobl oedd ddim yn Iddewon. Ond dyma ryw ddynion yn cyrraedd oedd wedi dod oddi wrth Iago yn Jerwsalem, a dyma Pedr yn dechrau cadw draw a thorri cysylltiad â'r Cristnogion hynny oedd ddim yn Iddewon. Roedd yn poeni am y rhai oedd yn credu bod defod enwaediad yn hanfodol bwysig – beth fydden nhw'n ei feddwl ohono.
13. A dyma'r Cristnogion Iddewig eraill yn dechrau rhagrithio yr un fath â Pedr. Cafodd hyd yn oed Barnabas ei gamarwain ganddyn nhw!
14. Ond roedd hi'n gwbl amlwg i mi eu bod nhw'n ymddwyn yn groes i wirionedd y newyddion da. Felly dyma fi'n dweud wrth Pedr o'u blaen nhw i gyd, “Rwyt ti'n Iddew, ac eto rwyt ti'n byw fel pobl o genhedloedd eraill, felly sut wyt ti'n cyfiawnhau gorfodi pobl o'r gwledydd hynny i ddilyn traddodiadau Iddewig?”
15. “Rwyt ti a fi wedi'n geni'n Iddewon, dim yn ‛bechaduriaid‛ fel mae pobl o genhedloedd eraill yn cael eu galw. Ac eto