Galarnad 5:9-15 beibl.net 2015 (BNET)

9. Dŷn ni'n gorfod mentro'n bywydau i nôl bwyd,am fod lladron arfog yn cuddio yng nghefn gwlad.

10. Mae newyn yn achosi i ni ddiodde o dwymyn;mae ein croen yn teimlo'n boeth fel ffwrn.

11. Mae'r gwragedd yn cael eu treisio yn Seion,a'r merched ifanc yn nhrefi Jwda.

12. Mae'r gelyn wedi crogi ein harweinwyr,a cham-drin y rhai hynaf ohonynt.

13. Mae'r dynion ifanc yn cael eu gorfodi i weithio'r maen melin,a'r bechgyn yn baglu wrth gario llwyth o goed.

14. Dydy'r arweinwyr hŷn ddim yn cyfarfod wrth giât y ddinas,ac mae'r bechgyn ifanc wedi stopio canu eu cerddoriaeth.

15. Mae pob llawenydd wedi diflannu;yn lle dawnsio dŷn ni'n galaru.

Galarnad 5