Galarnad 5:4-19 beibl.net 2015 (BNET)

4. Rhaid i ni brynu dŵr i'w yfed,a thalu am y coed tân dŷn ni'n ei gasglu.

5. Dŷn ni'n cael ein gyrru fel anifeiliaid â iau ar eu gwarrau;wedi blino'n lân, ac yn cael dim gorffwys.

6. Gwnaethon gytundeb gyda'r Aifft ac Asyria,er mwyn cael digon o fwyd i fyw.

7. Roedd ein hynafiaid, sy'n farw bellach, wedi pechu;a dŷn ni'n diodde canlyniadau eu drygioni nhw.

8. Mae caethweision yn feistri arnon ni,a does neb yn gallu'n hachub ni o'u gafael nhw.

9. Dŷn ni'n gorfod mentro'n bywydau i nôl bwyd,am fod lladron arfog yn cuddio yng nghefn gwlad.

10. Mae newyn yn achosi i ni ddiodde o dwymyn;mae ein croen yn teimlo'n boeth fel ffwrn.

11. Mae'r gwragedd yn cael eu treisio yn Seion,a'r merched ifanc yn nhrefi Jwda.

12. Mae'r gelyn wedi crogi ein harweinwyr,a cham-drin y rhai hynaf ohonynt.

13. Mae'r dynion ifanc yn cael eu gorfodi i weithio'r maen melin,a'r bechgyn yn baglu wrth gario llwyth o goed.

14. Dydy'r arweinwyr hŷn ddim yn cyfarfod wrth giât y ddinas,ac mae'r bechgyn ifanc wedi stopio canu eu cerddoriaeth.

15. Mae pob llawenydd wedi diflannu;yn lle dawnsio dŷn ni'n galaru.

16. Mae'r dathlu wedi dod i ben.Gwae ni, dŷn ni wedi pechu!

17. Dŷn ni'n teimlo'n sâl, ac wedi colli pob hyder;mae'r sbarc wedi diflannu o'n llygaid,

18. am fod Mynydd Seion yn gorwedd yn wag;dim ond siacaliaid sydd yno'n prowla.

19. Ond rwyt ti, ARGLWYDD, yn teyrnasu am byth;mae dy orsedd yn para ar hyd y cenedlaethau.

Galarnad 5